Last Updated on June 15, 2024 by Kittredge Cherry

Rainbow Stained Glass Window with Cross

A Welsh (Cymraeg) translation of the Rainbow Christ Prayer shows the many faces of the queer Christ.

Rainbow Christ, you embody all the colors of the world. Rainbows serve as bridges between different realms: heaven and earth, east and west, queer and non-queer. Inspire us to remember the values expressed in the rainbow flag of the lesbian, gay, bisexual, transgender and queer community.

Crist yr Enfys, ynot ti yr ymgorfforir holl liwiau’r byd. Pontia enfysau rhwng broydd gwahanol: y nefoedd a’r ddaear, y dwyrain a’r gorllewin, cwiar a digwiar. Ysbrydola ni i gofio’r gwerthoedd y mynegir ym maner y gymuned lesbiad, hoyw, trawsryweddol a chwiar.

Red is for life, the root of spirit. Living and Self-Loving Christ, you are our Root. Free us from shame and grant us the grace of healthy pride so we can follow our own inner light. With the red stripe in the rainbow, we give thanks that God created us just the way we are.

Coch sydd am fywyd, gwreiddyn yr ysbryd. Crist bywiol ac hunangar, ti yw ein gwreiddyn. Cadw ni rhag cywilydd a dyro i ni ras balchder iach er mwyn i ni ddilyn ein goleuni mewnol. Gyda streipen goch yr enfys, diolchwn i Dduw am ein bod ni wedi ein creu fel yr ydym.

 

Orange is for sexuality, the fire of spirit. Erotic Christ, you are our Fire, the Word made flesh. Free us from exploitation and grant us the grace of mutual relationships. With the orange stripe in the rainbow, kindle a fire of passion in us.

Oren sydd am rywioldeb, tân yr ysbryd. Crist erotig, ti yw ein tan, y gair a wnaed yn gnawd. Cadw ni rhag ymelwa a dyro i ni ras perthnasau cilyddol. Gyda streipen oren yr enfys cynnau ynom dân cariad angerddol.

 

Yellow is for self-esteem, the core of spirit. Out Christ, you are our Core. Free us from closets of secrecy and give us the guts and grace to come out. With the yellow stripe in the rainbow, build our confidence.

Melyn sydd am hunan-barch, craidd yr ysbryd. Crist Allan, ti yw ein craidd. Cadw ni rhag cuddio ein cyfrinachedd a dyro i ni’r plwc a’r gras i ddod allan. Gyda streipen felen yr enfys cynydda ynom ein hunan-hyder.

 

Green is for love, the heart of spirit. Transgressive Outlaw Christ, you are our Heart, breaking rules out of love. In a world obsessed with purity, you touch the sick and eat with outcasts. Free us from conformity and grant us the grace of deviance. With the green stripe in the rainbow, fill our hearts with untamed compassion for all beings.

Gwyrdd sydd am gariad, calon yr ysbryd. Herwr troseddol Crist, ti yw ein calon, yr wyt yn torri rheolau allan o gariad. Mewn byd sydd ag obsesiwn gyda phurdeb, yr wyt yn cyffordd â’r cleifion ac yr wyt yn bwyta gyda phechaduriaid. Cadw ni rhag cydymffurfio a dyro i ni ras gwaredigaeth. Gyda streipen werdd yr enfys, llanw ein calonnau gyda thosturi afreolus tuag at bob peth byw.

 

Blue is for self-expression, the voice of spirit. Liberator Christ, you are our Voice, speaking out against all forms of oppression. Free us from apathy and grant us the grace of activism. With the blue stripe in the rainbow, motivate us to call for justice.

Glas sydd am hunan fynegiant, llais yr ysbryd. Crist y Rhyddhäwr, ti yw ein llais, yr wyt yn siarad yn erbyn pob math o orthrymder. Cadw ni rhag dihidrwydd a dyro i ni ras gweithrediaeth. Gyda streipen las yr enfys, ysgoga ynom y galwad i gyfiawnder.

 

Violet is for vision, the wisdom of spirit. Interconnected Christ, you are our Wisdom, creating and sustaining the universe. Free us from isolation and grant us the grace of interdependence. With the violet stripe in the rainbow, connect us with others and with the whole creation.

Fioled sydd am weledigaeth, doethineb yr ysbryd. Crist cydgysylltiol, ti yw ein doethineb, yr wyt yn creu ac yn cynnal y bydysawd. Cadw ni rhag bod ar wahân a dyro i ni ras cyd-ddibyniaeth. Gyda streipen fioled yr enfys, cysyllta ni gydag eraill a chyda’r holl greadigaeth.

 

Brown is for diversity, the foundation of spirit. Human Christ, you were one of us, walking the earth as the brown-skinned Jesus of history. Free us from prejudice and remind us that we are all one family in the sacred web of life. With the brown stripe in the rainbow flag, weave us into solidarity with people of every skin color.

Brown sydd am amrywiaeth, sail yr ysbryd. Crist Agos-atom, un ohonom oeddet, yn cerdded ar y ddaear yn Iesu croen-frown hanes. Cadw ni rhag rhagfarnu a’n hatgoffa ni ein bod i gyd yn berthyn i un teulu yng ngwe santaidd bywyd. Gyda streipen frown yr enfys clyma ni mewn cydymddibyniad a phobl o bob liw croen.

 

Black is for mystery, the unconquerable soul of spirit. Black Christ, you are our Rebirth, reminding us that black is beautiful and restoring us in the darkest times. Free us from fear of the unknown and grant us the grace of new beginnings. With the black stripe in the rainbow flag, keep us grounded in the Mystery that never ends.

Du sydd am ddirgel, enaid anorchfygol yr ysbryd. Crist Du, ti yw ein Haileni, yr wyt yn ein hatgoffa taw peth prydferth yw a’i bod yn ein hadfer mewn amseroedd tywyll. Cadw ni rhag ofn yr anhysbys, a dyro i ni ras dechreuadau newydd. Gyda streipen ddu baner yr Enfys, cadw ni ar sail gadarn yn y dirgelwch di-ddiwedd.

 

Rainbow colors come together to make one light, the crown of universal consciousness. Hybrid and All-Encompassing Christ, you are our Crown, both human and divine. Free us from rigid categories and grant us the grace of interwoven identities. With the rainbow, lead us beyond black-and-white thinking to experience the whole spectrum of life.

Y mae lliwiau’r enfys yn dod at eu gilydd i greu un golau, coron ymwybodiaeth gyfanfydol. Crist holl-gwmpasog a chroesryw, ti yw ein coron, ddynol a dwyfol. Cadw ni rhag gategorïau llymion a dyro i ni ras hunaniaethau ymblethedig. Gyda’r Enfys , arwain ni y tu hwnt i farnau du a gwyn i brofi holl sbectrwm bywyd.

Rainbow Christ, you light up the world. You make rainbows as a promise to support all life on earth. In the rainbow space, we can see all the hidden connections between sexualities, genders and races. Like the rainbow, may we embody all the colors of the world! Amen.

Crist yr Enfys, yr wyt yn goleuo’r byd. Yr wyt yn creu enfysau’n addewidion i gynnal  bywyd ar y ddaear. Yn maner yr enfys, gwelwn yr holl gysylltiadau cudd rhwng rywolidebau, rhiwiau ac hiliau. Fel enfysau, gad i ni ymgorffori holl liwiau’r byd. Amen.

.
.
.
.
.
.

_________________________________________________________________

Gweddi Grist yr Enfys: Fersiwn byr

Rainbow Christ Prayer: Short version

Crist yr Enfys, ynot ti yr ymgorfforir holl liwiau’r byd. Ysbrydola ni i ddathlu pob lliw’r enfys.

Coch sy’n rhoi bywyd. Crist Hunangar, ti yw ein gwreiddyn.

Oren sy’n ennyn nwyd. Crist Erotig, ti yw ein tân.

Melyn sy’n codi ein dewrder. Crist Allan, ti yw ein craidd.

Gwyrdd sy’n ein cynhyrfu i garu. Herwr Troseddol Crist, ti yw ein calon.

Glas sy’n ein rhyddhau i siarad. Crist Rhyddhäwr, ti yw ein llais.

Fioled sy’n clirio ein golwg. Crist Cydgysylltiol, ti yw ein doethineb.

Y mae lliwiau’r enfys yn annhebyg, ond disgleiriant ar y cyd i greu un golau. Crist Croesryw ti yw ein coron, Crist Enfys ti yw goleuni’r byd.

Bydded yr enfysau yn ein arwain i brofi holl sbectrwm bywyd. Amen.

Brown sy’n ymgorffori amrywiaeth. Crist Agos-atom, un ohonom oeddet.

Du sy’n ein gwahodd i‘r dirgel. Crist cyfriniol, ti yw ein Haileni.

___

Cynrychiola’r streipiau du a brown pobl liw croen. Cadw ni rhag anffafriaeth  a dyro i ni ras cariad a derbyn.

Cynrychiola’r streipiau glas golau, pinc a gwyn pobl drawsryweddol ac anneuaidd. Galluoga ni i fod yn wir a dilys i’n hunain.

Cynrychiola’r cylch y rhai rhyngryw. Pleidia dros eu llawn gynnwys yn ein cymuned.

 

.
.
.
.
.
.

_________________________________________________________________
Rainbow Christ Prayer | Gweddi Grist yr Enfys
Welsh / Cymraeg: Translated by Alan ab Eifion. | Cyfieithwyd gan Alan ab Eifion.

The Rainbow Christ Prayer is available in more than 25 languages at: https://qspirit.net/rainbow-christ-prayer-translated/

___
This post is part of the LGBTQ Calendar series by Kittredge Cherry. The series celebrates religious and spiritual holidays, events in LGBT and queer history, holy days, feast days, festivals, anniversaries, liturgical seasons and other occasions of special interest to lesbian, gay, bisexual, transgender and queer people of faith and our allies.

Copyright © Kittredge Cherry. All rights reserved.
Qspirit.net presents the Jesus in Love Blog on LGBTQ spirituality.

Kittredge Cherry
Follow
(Visited 99 times, 1 visits today)